Adroddiad drafft y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Teitl: Rheoliadau Dosbarthu Carcasau Eidion a Moch (Cymru) 2011
Gweithdrefn: negyddol
Mae’r rheoliadau hyn:-
· yn dirymu ac yn disodli’r (i) Rheoliadau Carcasau Eidion (Dosbarthu) 1991 (OS 1991 Rhif 2242) a’r Rheoliadau Carcasau Moch (Graddio) 1994 (OS 1994 Rhif 2155 fel y’i diwygiwyd) mewn perthynas â Chymru; ac
Materion technegol: craffu
O dan Reol Sefydlog 21.2 bydd y Cynulliad yn cael ei wahodd i roi sylw arbennig i'r offeryn a ganlyn:-
1. Rheoliad 4 (c) – mae’r rheoliad yn honni ei fod yn dirymu’r Rheoliadau Carcasau Eidion (Dosbarthu) (Diwygio) (Cymru) 1994. Nid yw’r rheoliadau hyn yn bod. Mae cyfeirio at y troednodyn yn awgrymu mai’r Rheoliadau Carcasau Eidion (Dosbarthu) (Diwygio) 1994 fydd yn cael eu dirymu yng Nghymru. (Rheol Sefydlog 21.2 (vi) - ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol)
2. Rheoliad 2 (1) a rheoliad 26 – Mae rheoliad 26 yn darparu bod unrhyw berson sy’n peidio â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad neu’n mynd yn groes i unrhyw waharddiad a gynhwysir mewn darpariaethau moch Ewropeaidd yn euog o dramgwydd. Er bod “darpariaethau moch Ewropeaidd” yn cael eu diffinio yn rheoliad 2 (1) yn nhestun Saesneg y rheoliadau, nid oes diffiniad o “darpariaethau moch Ewropeaidd” yn y testun Cymraeg. (Rheol Sefydlog 21.2 (vii) – ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr testun Cymraeg a thestun Saesneg; a Rheol Sefydlog 21.2 (vi) - ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio'r offeryn yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol)
Rhinweddau: craffu
Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i fod yn destun adroddiad o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn:
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Gorffennaf 2011
Mae’r Llywodraeth wedi ymateb fel a ganlyn:
Rheoliadau Dosbarthu Carcasau Eidion a Moch (Cymru) 2011
“PWYNT ADRODD TECHNEGOL RHIF 1: Rheoliad 4 (c) – Gwall teipograffyddol yw’r testun “(Cymru”) yn nheitl y Rheoliadau. Mae’r troednodyn i’r Rheoliadau yn esbonio mai’r offeryn y cyfeirir ato yw Rheoliadau Carcasau Eidion (Dosbarthu) (Diwygio) 1994, O.S. 1994/2853. Roedd O.S. 1994/2853 yn gymwys i Brydain Fawr. Nid oedd unrhyw reoliadau cyfatebol ar wahân a oedd yn gymwys i Gymru’n unig. Mae rheoliad 4(c) yn dirymu O.S. 1994/2853 o ran Cymru yn unol â phwerau Gweinidogion Cymru i wneud hynny.
Ymhellach, ac o ran eu cymhwyso i Gymru, mae rheoliad 4(a) yn dirymu prif reoliadau sef Rheoliadau Carcasau Eidion (Dosbarthu) 1991: O.S. 1991/2242. Mae rheoliad 4(a) yn dirymu O.S. 1991/2242 fel y’i diwygiwyd. Felly mae modd dadlau nad oes gwir angen dirymu O.S. 1994/2853.
Bwriedir cywiro’r gwall teipograffydol pan fydd y Rheoliadau yn cael eu cyhoeddi. Sef, dileu’r cyfeiriad “(Cymru)” yn rheoliad 4(c). Bernir bod cywiro’r gwall wrth gyhoeddi yn ddigonol am y rhesymau a roddwyd.
PWYNT ADRODD TECHNEGOL RHIF 2: Rheoliadau 2(1) a 26 – Derbynnir y dylai fod diffiniad o “darpariaeth moch Ewropeaidd” yn nhestun Cymraeg y Rheoliadau. Bydd y Rheoliadau yn cael eu diwygio i gywiro’r gwall hwn cyn cynted â phosibl.
PWYNTIAU CYHOEDDI: Bydd y pwyntiau a godwyd fel rhai sy’n addas i’w cywiro wrth i’r Rheoliadau gael eu cyhoeddi yn cael eu gweithredu hefyd. “